Stori Meirion
​Mae'r stori ei hun yn para tua 1 awr ond mi fydd y daith rhywfaint yn hirach. Mae pum rhan i'r stori oherwydd bod pum cadair / mainc stori arbennig yn Harlech ac mae'r stori hon wedi ei chreu i gyd-fynd efo'r cadeiriau hynny. Ond nid oes rhaid ymweld â phob un i fwynhau y stori, gallwch fwynhau y stori drwy wneud rhannau o'r daith yn unig.
Y Llwybr
Petaech chi yn ymweld â'r pum cadair mi fydd y daith tua 2 filltir. Mae Harlech ar lech. Mae'n "Hardd-lech" ac mae rhannau serth wrth fynd o ran ucha'r dre i'r rhan isaf. Mae mwyafrif o'r daith ar hyd ffordd darmac ond mae rhannau o'r daith ar hyd dau lwybr sy'n cynnwys tir garw a serth ac un llwybr tywodlyd. Chi sy'n gyfrifol am sut rydych chi'n profi Llwybrau. Gallwch gerdded hanner y llwybr a dychwelyd i brofi'r gweddill ar ddiwrnod arall. I ddod o hyd i leoliad unrhyw un o'n cadeiriau, cliciwch ar y dolenni 'Cyfarwyddiadau'